P-05-851 Dileu’r cyfyngiadau amser ar y gilfan i’r dwyrain o Grucywel

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Crickhowell Town Council, ar ôl casglu 209 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​​​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu'r cyfyngiad amser ar y gilfan i'r dwyrain o Grucywel.  Ar hyn o bryd, mae terfyn amser o awr. Dyma'r unig gilfan â'r math hwn o gyfyngiad ar yr A40 yng Nghymru.


Prin y gwelir cerbyd yno gan y byddai mynd i'r dref am gwpanaid o de yn mynd heibio'r terfyn amser.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Brycheiniog a Sir Faesyfed

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru